Cynnig i sefydlu is-bwyllgor y Pwyllgor Menter a Busnes o dan Reol Sefydlog 17.17

Bod y Pwyllgor yn penderfynu, o dan Reol Sefydlog 17.17, sefydlu is-bwyllgor i gymryd tystiolaeth ar y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012;

mai cylch gwaith yr is-bwyllgor hwnnw yw cymryd tystiolaeth, ar y cyd â’r is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y Rheoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) (Diwygio) 2012. Bydd yr is-bwyllgor yn ceisio cytuno ar gynnwys adroddiad a lunnir ar y cyd â’r Is-bwyllgor a sefydlwyd gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn llywio trafodaethau’r Cynulliad ar y rheoliadau. Bydd yr Is-bwyllgor yn cael ei ddiddymu unwaith y bydd trafodaeth wedi’i chynnal ar y rheoliadau yn y Cyfarfod Llawn;

 

bod aelodaeth yr is-bwyllgor yn cynnwys Alun Ffred Jones, Eluned Parrott, Nick Ramsay, David Rees, Ken Skates, gyda Nick Ramsay wedi’i ethol yn Gadeirydd.